Yma ac acw yn y Fenni

8fed Awst 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â chynrychiolwyr o Gyngor Tref y Fenni ar daith gerdded yng nghanol y dref yr wythnos hon.

Gwahoddwyd y Comisiynydd gan gynghorwyr tref i drafod tensiynau cymunedol diweddar a phryderon eraill a godwyd gan drigolion, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a pharcio sy’n achosi problemau.

Yn ogystal â chwrdd â chynghorwyr lleol, siaradodd y Comisiynydd â thrigolion a derbyniodd ddiweddariad gan gynrychiolwyr Cadwch y Fenni’n Daclus ynghylch y gwaith y mae'r grŵp o wirfoddolwyr yn ei wneud i fynd i'r afael â sbwriel yn yr ardal.

Dywedodd Jane Mudd: "Rydym wedi gweld rhai tensiynau diweddar yn y Fenni ac roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig mynd allan i'r dref, siarad â thrigolion a chynrychiolwyr etholedig, a deall sut mae hyn yn effeithio ar ein cymunedau.

“Yn ogystal â mynd i'r afael â phryderon uniongyrchol, rwyf wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â'n cymunedau i feithrin mwy o ddealltwriaeth, ymddiriedaeth ac undod. Trwy barhau i wrando, ymgysylltu a gweithredu ar bryderon trigolion, rydym yn ceisio creu cymunedau cryfach, mwy cydnerth lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu a bod gan bawb lais.

“Roedd y cyfarfod hefyd yn gyfle i drafod materion plismona ehangach yn y dref. Ar hyn o bryd mae'r Fenni yn elwa ar adnoddau ychwanegol drwy Fenter Haf Strydoedd Mwy Diogel Llywodraeth y DU, ac roedd yn galonogol clywed sut mae hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn lleol."