Y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) yn dathlu carreg filltir
Ymunodd cynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent gyda phartneriaid cymunedol a chefnogwyr i ddathlu 20fed pen-blwydd y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST).
Sefydlwyd EYST yn 2005, ac mae wedi tyfu i fod yn adnodd hollbwysig i unigolion a theuluoedd o leiafrifoedd ethnig, yn cynnig rhaglenni pwrpasol yn y meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd, diogelwch cymunedol a chydlyniant cymdeithasol. Enillodd EYST Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2022 - gwobr fawreddog iawn – i gydnabod y gwaith rhagorol mae'n ei wneud.
Yn ystod y digwyddiad pen-blwydd, tynnwyd sylw at gyflawniadau ac effaith barhaus y sefydliad, gan gynnwys ei bartneriaeth gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy'n rhoi arian i EYST gynnal clwb ieuenctid wythnosol ym Maendy. Mae'r fenter hon yn rhoi lle diogel a chroesawgar i blant a phobl ifanc, ble gallant gael cymorth gyda'u hiechyd corfforol a meddyliol, gwaith ysgol, a datblygiad cymdeithasol.
Noddwyd y digwyddiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd. Dywedodd: “Mae'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn gweithio yn ein cymunedau i roi cymorth i blant a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol, gan roi man diogel iddyn nhw, gyda phobl ddiogel, ble gallant fynd i gael cymorth, cefnogaeth ac i gael hwyl gyda'u ffrindiau.
"Roeddwn yn falch i gefnogi'r digwyddiad yma ac i ddathlu'r gwaith da iawn mae'r tîm yn EYST wedi bod yn ei wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."