Y Prif Gwnstabl yn cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddeol
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddeol yn hwyrach eleni.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Hoffwn ddiolch i Pam Kelly am ei gwasanaeth i Heddlu Gwent a hoffwn hefyd gydnabod ei blynyddoedd o wasanaeth yn Heddlu Dyfed-Powys. Hoffwn gydnabod yn benodol y ffordd yr arweiniodd Heddlu Gwent trwy gyfnod digynsail pandemig Covid-19, rhywbeth na allem ni fod wedi ei ragweld pan benodwyd hi yn 2019.
"Gyda'n gilydd, rwyf yn credu ein bod wedi cyflawni llawer. Bydd eleni'n flwyddyn o newid i blismona yma yng Ngwent a bydd y cyhoeddiad yma'n caniatáu i'r Comisiynydd newydd ddechrau'r broses o benodi Prif Gwnstabl newydd a sicrhau trosglwyddiad hwylus pan fydd Prif Gwnstabl Kelly'n ymddeol."
Darllen mwy