Y Panel Heddlu a Throseddu i gynnal gwrandawiad cadarnhau ar gyfer y Prif Gwnstabl arfaethedig
Mis nesaf, bydd Panel Heddlu a Throseddu Gwent yn cynnal gwrandawiad cadarnhau ar gyfer Prif Gwnstabl newydd arfaethedig Heddlu Gwent.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn cynnig Prif Gwnstabl Dros Dro Pam Kelly fel ei ymgeisydd o ddewis, gydag argymhelliad bod y panel yn cymeradwyo ei ddewis mewn cyfarfod arbennig o’r panel dydd Llun 12 Awst.
Mae cymeradwyaeth y Panel Heddlu a Throseddu yn ofynnol dan Ddeddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Rôl y panel yw sicrhau bod y broses o ddethol a phenodi Prif Gwnstabliaid yn cael ei chynnal yn agored a theg.
Roedd Pam Kelly, sy'n dal swydd barhaol fel Dirprwy Brif Gwnstabl, yn llwyddiannus yn y cam cyfweliad ar gyfer swydd Prif Gwnstabl yn dilyn y broses ddethol ddiweddar. Roedd hyn yn dilyn ymddeoliad y cyn Brif Gwnstabl, Julian Williams ar ddiwedd mis Mehefin.
Bydd y Panel Heddlu a Throseddu yn cwrdd yng Nghyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Brynbuga am 10am dydd Llun 12 Awst. Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y we a gellir gweld copïau o'r adroddiadau ar http://gwentpcp.org.uk.
Ni fydd Mr Cuthbert yn gwneud unrhyw sylwadau pellach nes bydd y Panel Heddlu a Throseddu wedi gorffen y broses benodi.