Y Llywodraeth yn lansio Gwasanaeth Gwybodaeth Coronafeirws ar WhatsApp
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Coronafeirws newydd gan GOV.UK ar gael am ddim a’r nod yw rhoi gwybodaeth swyddogol, ddibynadwy ac amserol a chyngor ar y coronafeirws (COVID-19), a bydd yn helpu i ysgafnhau’r baich ar wasanaethau’r GIG.
Gwasanaeth ‘sgyrsfot’ wedi’i awtomeiddio yw Gwasanaeth Gwybodaeth Coronafeirws GOV.UK sy’n galluogi’r cyhoedd ym Mhrydain i gael atebion cywir i’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch y coronafeirws yn uniongyrchol gan y llywodraeth.
Bydd y gwasanaeth yn rhoi gwybodaeth am bynciau megis atal y coronafeirws a’i symptomau, nifer diweddaraf yr achosion yn y DU, cyngor ar aros gartref, cyngor ar deithio a chwalu’r mythau.
I ddefnyddio Gwasanaeth Gwybodaeth Coronafeirws GOV.UK am ddim ar WhatsApp, ychwanegwch y rhif 07860 064422 at eich rhifau cyswllt yn eich ffôn ac yna anfon y gair ‘hi’ mewn neges WhatsApp i ddechrau arni.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://www.gov.uk/government/news/government-launches-coronavirus-information-service-on-whatsapp