Y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn recriwtio Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ar hyn o bryd.
Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn aelodau'r cyhoedd sy'n gwirfoddoli i ymweld â dalfeydd yr heddlu'n ddirybudd i wirio lles y bobl sy'n cael eu cadw ac i wirio dan ba amodau maen nhw'n cael eu cadw a sicrhau bod eu hawliau'n cael eu gwarchod.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn gwneud gwaith hollbwysig, yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn cadw at y safonau uchaf posibl a bod pobl sy'n cael eu cadw'n cael eu trin yn briodol.
“Maen nhw'n chwarae rhan bwysig yn helpu fy swyddfa i sicrhau ein bod yn craffu'n fanwl ar bob agwedd ar waith Heddlu Gwent.”
Am ragor o fanylion ac i lawr lwytho ffurflen gais ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.