Y Comisiynydd yn ymuno â digwyddiad Diwrnod Rhuban Gwyn Cymdeithas Tai Sir Fynwy

29ain Tachwedd 2024

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd â phartneriaid yng nghyfarfod Clwb Brecwast Cymdeithas Tai Sir Fynwy ar gyfer sesiwn arbennig i gyd fynd â Diwrnod Rhuban Gwyn.

Yn ystod y sesiwn, cafodd rhaglen waith Cymdeithas Tai Sir Fynwy i ennill ei achrediad Cynghrair Tai Cam-drin Domestig ei lansio'n swyddogol, a chlywodd gwesteion gan amryw o siaradwyr sy'n gweithio i roi cymorth i fenywod, merched a dioddefwyr cam-drin yn Sir Fynwy.

Nod y Clwb Brecwast yw dod â staff at ei gilydd i ddysgu mwy am broblemau penodol, sy'n eu galluogi nhw i roi gwell cymorth i'w preswylwyr.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roeddwn yn falch iawn i allu siarad â'r staff yng Nghymdeithas Tai Sir Fynwy ac i gefnogi eu gwaith i ennill achrediad gyda'r Gynghrair Tai Cam-drin Domestig.

“Bob blwyddyn, mae o leiaf un o bob 12 menyw a merch yn y DU yn dioddef trais neu gamdriniaeth. Mae hyn yn golygu y bydd rhyw 25,000 o fenywod a merched yn dioddef ymddygiad treisgar a chamdriniaeth yn ein cymunedau bob blwyddyn.

"Mae gan gymdeithasau tai berthynas agos gyda'u preswylwyr, ac mae'n bwysig iawn bod eu staff yn gallu adnabod arwyddion cam-drin, a'u bod nhw'n gwybod ble i droi i gael cymorth."