Y Comisiynydd yn rhannu ei hoff draciau ar Vitalize Radio

16eg Rhagfyr 2025

Rhannodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd rai o'i hoff draciau gyda gwrandawyr yn ystod cyfweliad ar orsaf gymunedol Vitalize Radio.

Yn ogystal â siarad am ei hoff ganeuon, atebodd y Comisiynydd gwestiynau gan y gwrandawyr.

Gofynnwyd cwestiynau am beth mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ddiogelu plant a phobl ifanc, dyfodol ystâd yr heddlu, a dyfodol llywodraethu'r heddlu yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan y bydd swyddogaeth comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn dod i ben yn 2028.

Meddai Jane Mudd: “Mae radio cymuned yn arbennig o bwysig o hyd, ac mae nifer y cwestiynau a gyflwynwyd yn dangos faint o wrandawyr ffyddlon sy'n gwrando bob dydd ar eu hoff raglenni.

“Rwyf eisiau diolch i Vitalize am y gwahoddiad ac am y cyfle i rannu rhai o fy hoff ganeuon, ac i bawb a gysylltodd gyda'u cwestiynau.”