Y Comisiynydd yn nodi blwyddyn ers ei hethol
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gael fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Gwent. Gallaf ddweud yn onest ei bod wedi bod yn un o'r blynyddoedd mwyaf heriol yn fy ngyrfa, ond yn un o'r rhai sydd wedi rhoi'r mwyaf o foddhad i mi hefyd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi gorfod gwneud tri o'r penderfyniadau mwyaf y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gyfrifol amdanynt. Rwyf wedi penodi Prif Gwnstabl newydd, cyhoeddi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, a phennu cyllideb Heddlu Gwent.
Penodais Mark Hobrough yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent ym mis Rhagfyr 2024. Gwnaed y penodiad ar ôl misoedd o ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfres o gyfweliadau gyda phaneli'n cynnwys sefydliadau partner, aelodau'r gymuned, a phobl ifanc. Roedd gwybodaeth Mark, a'i ymroddiad i bobl Gwent yn amlwg iawn yn ystod y cyfweliadau hyn. Chwe mis yn ddiweddarach, rwyf yn dal yn sicr o'i frwdfrydedd a'i ymrwymiad i wneud Gwent yn lle mwy diogel i'n preswylwyr.
Gyda'n gilydd, gwnaethom agor adeilad newydd Heddlu Gwent yn Y Fenni. Mae Prif Gwnstabl Hobrough a mi yn unedig yn ein hymrwymiad i gynyddu plismona gweladwy yn ein cymunedau. Bydd y lleoliad newydd yn galluogi Heddlu Gwent i fod yn fwy gweladwy yn Y Fenni a'r ardal o gwmpas a bydd yn rhoi canolfan i dimau lleol sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Gwnaethom weithio gyda'n gilydd i gynnal arddangosfa o waith celf pwerus ym mhencadlys Heddlu Gwent i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn hefyd. Roedd yr arddangosfa ‘Words Matter' yn cynnwys mwy na 20 darn o waith gan arlunwyr ledled y Deyrnas Unedig ac roedd yn archwilio themâu trais, casineb at fenywod a beio dioddefwyr. Yn rhan o fy nghefnogaeth i Ddiwrnod Rhuban Gwyn trefnais i bartneriaid allweddol ddod at ei gilydd i drafod sut gallwn weithio gyda'n gilydd yn well i roi cymorth i fenywod a merched yn ein cymunedau.
Fy nghyfrifoldeb i yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y gwasanaeth mae Heddlu Gwent yn ei roi i'n preswylwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y broses yma'n fwy tryloyw a hygyrch, a byddaf yn lansio fforwm newydd cyn bo hir i graffu ar bolisïau a pherfformiad. Byddaf hefyd yn creu cyfleoedd rheolaidd i'r cyhoedd gyflwyno eu cwestiynau i mi er mwyn i mi eu gofyn i'r Prif Gwnstabl. Bydd y cyfarfodydd yma i'w gweld ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion am hyn yn fuan.
Ar ddechrau'r flwyddyn yma, pennais gyllideb Heddlu Gwent yn ffurfiol ar gyfer 2025-2026. Mae rhan sylweddol ohoni'n dod yn uniongyrchol o'r arian a dderbynnir trwy'r dreth gyngor a fi sy'n pennu lefel praesept treth y cyngor sy'n cael ei dalu gan breswylwyr. Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod y gyllideb derfynol yn cydbwyso'n deg rhwng fforddiadwyedd a'r arian sydd ei angen arnaf i greu Gwent fwy diogel a chyflawni'r ymrwymiadau rwyf wedi eu gwneud yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Lansiwyd y cynllun ym mis Mawrth ac mae'n nodi pum blaenoriaeth, sef: atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; gwneud ein cymunedau'n fwy diogel; amddiffyn pobl agored i niwed; rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr; a lleihau aildroseddu. Penderfynais ganolbwyntio ar y meysydd yma ar ôl misoedd o ymgysylltu â'r cyhoedd, trafod gydag asiantaethau partner, a chynnal grwpiau ffocws gyda phreswylwyr. Maent yn adlewyrchu'r ymrwymiadau y gwnes i pan oeddwn i'n ymgyrchu i gael fy ethol hefyd ac rwyf yn hyderus y byddant yn cyflawni Gwent fwy diogel i bob un ohonom. Mae fy ymroddiad diwyro i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn sylfaen i'r blaenoriaethau hyn.
Er ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol, gallaf ddweud yn onest ei bod wedi bod yn hyfryd dod i adnabod gwahanol gymunedau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Rwyf wedi mynychu grwpiau cymunedol a digwyddiadau lleol, wedi siarad â phreswylwyr ac wedi ymweld â nifer o'n hysgolion i siarad â phlant a phobl ifanc. Yn union fel rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Heddlu Gwent yn bresenoldeb gweladwy yn ein cymunedau, rwyf yn credu bod y cyfrifoldeb yma yn rhan o fy ngwaith fel Comisiynydd hefyd. Hoffwn ddiolch i bawb am wneud imi deimlo mor gartrefol.
Er fy mod yn gyfarwydd â gwasanaeth cyhoeddus, rwyf wedi gorfod dysgu llawer iawn am blismona a'r system cyfiawnder troseddol ehangach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf yn lwcus i gael cefnogaeth tîm proffesiynol sy'n gweithio tu ôl i'r llenni i sicrhau bod dyletswyddau statudol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Hoffwn ddiolch iddyn nhw, yn ogystal â'n partneriaid cyfiawnder troseddol ehangach, am eu cefnogaeth.
Rwyf yn eithriadol o falch o'r ffaith bod preswylwyr wedi dangos y fath ymddiriedaeth a hyder ynof i pan wnaethant fy ethol yn Gomisiynydd. Rwyf yn addo parhau i weithio'n galed i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau a gwneud Gwent yn lle mwy diogel i bawb ohonom.