Y Comisiynydd yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VJ

15fed Awst 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â chydweithwyr yn y maes plismona i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VJ.

Mae Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan yn nodi ildiad Japan ar 15 Awst 1945, a ddaeth â'r Ail Ryfel Byd i ben.

I nodi'r achlysur, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ym Mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: " Mae Diwrnod VJ yn amser i anrhydeddu dewrder ac aberth pawb a wasanaethodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a phawb a fuodd fyw trwy'r amseroedd trawmatig hynny gan wasanaethu eu gwlad ar y ffrynt cartref.

"Mae heddiw yn atgoffâd dwys o'n dyled ni i'r genhedlaeth honno, y gwnaeth eu dewrder sicrhau'r rhyddid rydym ni'n ei fwynhau heddiw."