Y Comisiynydd yn lansio Siarter Plant a Phobl Ifanc
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi lansio siarter plant a phobl ifanc newydd.
Mae'n amlinellu ei hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a bod eu hawliau'n cael eu hamddiffyn o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Caiff siarter y Comisiynydd ei llunio gan leisiau mwy na 2,000 o blant a phobl ifanc ledled Gwent a bydd yn arwain gwaith Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn y dyfodol.
Meddai Jane Mudd: “Fy swydd i yw sicrhau bod pob preswylydd yn cael y gwasanaeth gorau posibl gan Heddlu Gwent. Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn aml yn cael eu colli neu eu hanghofio, ac rwyf i eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu clywed yn glir.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae fy nhîm a minnau wedi teithio ledled Gwent i siarad â miloedd o blant a phobl ifanc. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar bopeth maen nhw wedi ei rannu, ac mae eu lleisiau nhw wedi llunio'r siarter yma.
"Fe ddywedon nhw wrthyf fod teimlo'n ddiogel gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymunedau'n bwysig iawn. Maen nhw eisiau i'r heddlu eu trin nhw'n deg ac yn garedig. Os bydd rhywbeth drwg yn digwydd, maen nhw eisiau'r gefnogaeth gywir i'w helpu nhw i deimlo'n well a symud ymlaen.
“Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, rydw i'n gwneud tri addewid i blant a phobl ifanc Gwent. Byddaf yn gwrando arnoch chi, amddiffyn eich hawliau a sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu y gorau y gallant fod.
"Rwyf am i bob plentyn a pherson ifanc yng Ngwent gael y dechrau gorau mewn bywyd ac i allu cyrraedd eu llawn botensial. Trwy gadw'r addewidion hyn a gweithio'n agosach gyda'n plant a phobl ifanc, credaf y gallwn wneud Gwent yn lle gwell i bawb ohonom ni."