Y Comisiynydd yn lansio prosiect i ymgysylltu â phobl ifanc

8fed Awst 2025

Mae plant a phobl ifanc ledled Gwent wedi’u gwahodd i roi eu barn ar droseddu a phlismona.

Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi lansio menter fawr i ymgysylltu â phobl ifanc gyda'r nod o wrando ar farn plant a phobl ifanc ym mhum sir Gwent.

Bydd eu hadborth yn helpu i lunio siarter newydd sy'n amlinellu sut y bydd y Comisiynydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y dyfodol.

Dywedodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Cefais fy ethol i fod yn llais y cyhoedd, ac mae'n hynod bwysig i mi fod lleisiau ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu clywed yn glir ac yn amlwg.

"Trwy ddeall beth mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl am blismona yn eu hardal, pa mor ddiogel maen nhw'n teimlo, a beth maen nhw'n credu y gallai gwasanaethau cyhoeddus fod yn ei wneud yn well, gallwn deilwra gwasanaethau a thargedu cyllid i ddiwallu eu hanghenion yn well.

"Mae fy nhîm a minnau eisoes wedi siarad â channoedd o blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau ledled Gwent dros yr haf, a nawr rydym yn agor y cyfle i hyd yn oed mwy o bobl gymryd rhan ar-lein. Rwy'n annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd ychydig funudau i ddweud eu dweud."

I gymryd rhan, ewch i https://bit.ly/4mgaUiL