Y Comisiynydd yn cynnal cyfarfod diweddaraf y Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd

31ain Hydref 2025

Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi cynnal cyfarfod diweddaraf ei Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd.


Y bwrdd yw cyfrwng y Comisiynydd ar gyfer hyrwyddo tryloywder, gwaith craffu ar berfformiad a pholisïau'r heddlu, ac i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i drigolion.

Dywedodd Jane Mudd: "Rwyf wedi cael fy ethol i ddwyn Prif Gwnstabl Heddlu Gwent yn atebol am y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i bobl Gwent. Mae'n bwysig bod y broses hon yn agored ac yn dryloyw, a bod trigolion yn gallu gweld y gwaith sy'n digwydd ar eu rhan.

"Datblygu proses graffu fwy cadarn a'i gwneud yn hygyrch i'r cyhoedd yw un o'r ffyrdd rydw i'n gweithio i gynyddu atebolrwydd uniongyrchol wrth gryfhau ymddiriedaeth a hyder rhwng yr heddlu a'n trigolion."