Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi cynnal cyfarfod diweddaraf ei Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd.

17eg Medi 2025



Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi cynnal cyfarfod diweddaraf ei Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd.

Y bwrdd yw cyfrwng y Comisiynydd ar gyfer hyrwyddo tryloywder, gwaith craffu ar berfformiad a pholisïau'r heddlu, ac i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i drigolion.

Yn ystod cyfarfod mis Medi, mae'r bwrdd:

  • Wedi derbyn diweddariad gan y Prif Gwnstabl Mark Hobrough ar y camau a gymerwyd mewn ymateb i faterion a godwyd yn Adroddiad Arolygu PEEL diweddaraf HMICFRS.
  • Wedi adolygu perfformiad Heddlu Gwent dros y chwarter diwethaf.
  • Wedi craffu ar strategaethau caffael a phobl Heddlu Gwent.


Dywedodd Jane Mudd: "Rwyf wedi cael fy ethol i ddwyn Prif Gwnstabl Heddlu Gwent yn atebol am y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i bobl Gwent. Mae'n bwysig bod y broses hon yn agored ac yn dryloyw, a bod trigolion yn gallu gweld y gwaith sy'n digwydd ar eu rhan.

"Datblygu proses graffu fwy cadarn a'i gwneud yn hygyrch i'r cyhoedd yw un o'r ffyrdd rydw i'n gweithio i gynyddu atebolrwydd uniongyrchol wrth gryfhau ymddiriedaeth a hyder rhwng yr heddlu a'n trigolion."

Gellir gweld y cyfarfod llawn ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.