Y Comisiynydd yn cyfarch arweinwyr plismona cenedlaethol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi siarad ag arweinwyr plismona o bob rhan o'r Deyrnas Unedig am y gwaith mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ysgogi newid diwylliant o fewn y sefydliad.
Mae Uwch-gynhadledd Partneriaeth Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a Phenaethiaid yr Heddlu yn dwyn uwch arweinwyr, gwleidyddion ac arbenigwyr at ei gilydd i drafod un o'r problemau mwyaf cymhleth yn y maes gorfodi'r gyfraith a chyfiawnder troseddol.
Rhoddodd Comisiynydd Mudd a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Nick McLain o Heddlu Gwent gyflwyniad i'r uwch-gynhadledd ar y gwaith y mae'r sefydliad wedi bod yn ei wneud i wella diwylliant, gan ganolbwyntio'n benodol ar gasineb at fenywod a gwahaniaethu. Yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru a Hydra Foundation mae'n datblygu diwylliant sy'n seiliedig ar dair egwyddor, sef cynhwysiant, arweinyddiaeth deg a dibynadwy, a hyder cymunedol.
Meddai Comisiynydd Mudd: “Mae Heddlu Gwent wedi wynebu nifer o heriau diwylliannol uchel eu proffil yn y blynyddoedd diwethaf sydd wedi denu llawer o sylw ar y cyfryngau. Does dim amheuaeth bod hyn wedi effeithio ar hyder y cyhoedd mewn plismona yng Ngwent ac mae hyn yn rhywbeth y clywais yn aml wrth ymgyrchu o ddrws i ddrws cyn yr etholiad.
"Serch hynny, gallaf sicrhau pobl Gwent bod gwaith aruthrol yn cael ei wneud yn Heddlu Gwent i ysgogi newid ac ail adeiladu rhywfaint o'r hyder a gollwyd. Mae hyn yn cynnwys gwaith i roi cynhwysiant, ymddiriedaeth a hyder cymunedol wrth wraidd y sefydliad a'i benderfyniadau.
“Mae sicrhau bod y cyhoedd yn gallu ymddiried yn eu heddlu a bod â hyder ynddynt yn rhywbeth sy'n flaenoriaeth i mi, a byddaf yn monitro llwyddiant y gwaith yma'n agos iawn dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."