Y Comisiynydd yn cwrdd â ffermwyr mewn marchnad da byw

10fed Hydref 2025

Yr wythnos yma aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd i Farchnad Da Byw Sir Fynwy i siarad â ffermwyr lleol.

Mae gwneud cymunedau cefn gwlad Gwent yn llefydd mwy diogel i fyw a gwneud busnes ynddynt yn un o'r prif flaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd, a lansiwyd ym mis Mawrth eleni.

Cafodd gwmni Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gwent ar gyfer yr ymweliad. Maen nhw'n mynychu'r farchnad yn rheolaidd i ymgysylltu â ffermwyr a gweithwyr cefn gwlad am y problemau sy'n effeithio ar eu busnesau a'u cymunedau.

Meddai Comisiynydd Mudd: “Mae Gwent yn ardal arbennig o amrywiol, ac rwy'n credu nad yw llawer o bobl yn gwerthfawrogi pa mor gryf yw ein heconomi wledig. Rwyf wedi gweld yr effaith ddinistriol mae troseddau cefn gwlad yn gallu ei chael, nid yn unig ar fywoliaeth pobl, ond hefyd ar ein cyflenwad bwyd a thwristiaeth leol. Mae'r troseddau hyn yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol difrifol a chyfundrefnol ehangach.

"Roedd yn dda iawn siarad â ffermwyr am eu pryderon, a gweld y gwaith caled mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yng nghanolfan lles y farchnad, sy’n helpu i edrych ar ôl eu lles.

"Rwyf wedi ymroi i weithio'n agos gyda chymunedau cefn gwlad, ac rwyf yn dawel fy meddwl bod Gwent yn elwa ar gael tîm plismona cefn gwlad pwrpasol sy'n deall yr heriau unigryw mae'r cymunedau hyn yn eu hwynebu ac sy'n gweithio'n galed i'w hamddiffyn."