Y Comisiynydd yn croesawu ymrwymiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â throseddau manwerthu

1af Tachwedd 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu ymrwymiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â dwyn o siopau a throseddau manwerthu. 

Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi ymrwymo i "stopio dwyn o siopau yn ei unfan", gan ddileu deddfwriaeth sy'n golygu bod pobl sy'n dwyn nwyddau gwerth llai na £200 yn derbyn cosbau llai difrifol. Ymrwymodd hefyd i roi rhagor o arian i wasgu'n dynn ar gangiau troseddau trefnedig sy'n targedu manwerthwyr, ac i roi mwy o hyfforddiant i swyddogion heddlu a manwerthwyr.

Gwnaed yr ymrwymiadau hyn yn rhan o gyhoeddiad cyllideb flynyddol llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r cynnydd mewn dwyn o siopau, a thrais a sarhad tuag at weithwyr siopau yn achos pryder go iawn, ac rwyf yn falch iawn i weld llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw at yr ymrwymiadau a wnaeth yn Araith y Brenin yn gynharach eleni ac yn buddsoddi i fynd i'r afael â'r troseddau yma.

“Rwyf yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig, a'r llywodraeth yma yng Nghymru, i gyflawni'r ymrwymiadau yma i'n trigolion ac i wneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.”