Y Comisiynydd yn croesawu’r cyhoeddiad am y ganolfan breswyl gyntaf i fenywod
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu'r cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder, Lucy Frazer, bod Cymru wedi cael ei dewis yn gartref i ganolfan breswyl gyntaf Llywodraeth y DU i fenywod.
Pan gaiff ei sefydlu, bydd yn cynnig dewis gwahanol i’r ddalfa a bydd yn canolbwyntio ar adsefydlu menywod gydag anghenion cymhleth sydd wedi cael eu barnu'n euog o droseddau lefel isel.
Dywedodd Mr Cuthbert: “Rwyf wrth fy modd i glywed mai yng Nghymru y bydd y ganolfan breswyl gyntaf i fenywod. Nid oes unrhyw garchardai i fenywod yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rydym yn gwybod bod hynny'n peri problem fawr o ran cyswllt a chefnogaeth deuluol a’i fod yn gallu cael effaith ddinistriol, nid yn unig ar y menywod eu hunain ond ar blant hefyd.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn torri tir newydd a bydd yn galluogi teuluoedd i gadw mewn cysylltiad tra'u bod nhw'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Bydd yn helpu troseddwyr i gael y cymorth a'r adferiad sydd eu hangen arnyn nhw hefyd, trwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu megis camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl. Bydd yn helpu i ddargyfeirio menywod oddi wrth droseddau ac allan o'r carchar lle bynnag y bo'n bosibl.
"Bydd y ganolfan yn darparu cymorth hollbwysig i fenywod sy'n profi cam-drin domestig ac yn eu helpu nhw i drosglwyddo o'r ganolfan i fywyd yn eu cymuned."
Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ganfod darparwr a safle, gyda'r nod o agor y ganolfan erbyn diwedd 2021.
Bydd cyfarwyddwyr pob ardal brawf ranbarthol yn rhan o'r dyraniad cyllid o £2.5 miliwn a byddant yn asesu pa fath o wasanaeth sydd ei angen fwyaf.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/news/funding-boost-to-steer-more-women-away-from-crime