Y Comisiynydd yn croesawu hwb Llywodraeth San Steffan i blismona cymdogaeth
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i roi hwb i blismona cymdogaeth ledled Cymru a Lloegr.
Bydd y Warant Plismona Cymdogaeth yn rhoi 13,000 mwy o swyddogion mewn swyddi plismona cymdogaeth ledled Cymru a Lloegr erbyn 2029. Bydd gofyn i heddluoedd gael swyddogion penodol y gellir cysylltu â nhw ar gyfer pob ward a bydd yn gwarantu patrolau heddlu mewn ardaloedd prysur ar yr adegau mwyaf prysur.
Mae'r warant yn rhan o'r Bil Heddlu a Throseddu ac yn rhan o'i ymrwymiad i feithrin ymddiriedaeth mewn plismona ac ymdrin â throseddu mewn cymunedau.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a mi yn unedig yn ein hymrwymiad i gynyddu plismona gweladwy yn ein cymunedau. Dyma beth mae ein preswylwyr wedi dweud wrthym ni maen nhw ei eisiau a dyna pam mae'n rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd.
"Fodd bynnag, mae cyllidebau'r heddlu yn dynn yn barod ac mae angen buddsoddiad arnom ni i wireddu'r uchelgais yma. Mae cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan am swyddogion newydd, a'i ymrwymiad blaenorol i fwy o arian, yn rhoi hwb ariannol i blismona cymdogaeth y mae ei angen yn fawr.
"Bydd yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau ac i feithrin ymddiriedaeth rhwng ein preswylwyr a Heddlu Gwent."