Y Comisiynydd yn croesawu Comisiynydd Windrush newydd
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu Comisiynydd Windrush newydd y Deyrnas Unedig, y Parchedig Clive Foster MBE, yn ystod ei ymweliad cyntaf â Chymru.
Penodwyd y Parchedig Foster gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wasanaethu fel eiriolwr annibynnol a llais dibynadwy ar gyfer Cenhedlaeth Windrush a'i disgynyddion.
Mae Cenhedlaeth Windrush yn cyfeirio at y dynion, menywod a phlant Affro-Caribïaidd a gyrhaeddodd y Deyrnas Unedig ar HMT Empire Windrush ym 1948. Daethant ar adeg pan roedd angen mawr am weithwyr a chawsant groeso yn rhan o’r ymdrechion i ail adeiladu'r wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Ymunodd aelodau cymuned Windrush Casnewydd â Chomisiynydd Mudd yn y cyfarfod yng Nghaerdydd, ynghyd â chynrychiolwyr o Age Alive, grŵp gwirfoddol sydd wedi ymroi i wella cynhwysiant cymdeithasol i breswylwyr o dreftadaeth ethnig dros 50 oed yng Ngwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn fraint go iawn cael cwrdd â Chomisiynydd Windrush cyntaf y Deyrnas Unedig a'i groesawu i Gymru.
"Dim ond y mis diwethaf, gwnaethom nodi 77 mlynedd ers i HMT Empire Windrush gyrraedd ein glannau. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gofio'r dynion a menywod hynny a wnaeth cymaint o gyfraniad i'n cymunedau.
"Yn anffodus, cafodd llawer ohonynt eu trin yn wael gan lywodraethau blaenorol. Mae penodiad y Parchedig Foster yn gam pwerus ymlaen, ac yn dangos bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn awr a bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod nhw'n derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw wir yn ei haeddu.”