Y Comisiynydd yn croesawu canolfan genedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched

6ed Chwefror 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ganolfan heddlu £13 miliwn a fydd yn rhoi blaenoriaeth i waith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ledled Cymru a Lloegr.

Bydd y ganolfan yn dod â rhyw 100 o swyddogion a staff at ei gilydd i gyflawni swyddogaeth cyd-gysylltu cenedlaethol, i sicrhau bod pawb sy'n dioddef cam-drin rhywiol yn erbyn plant, treisio a throseddau rhywiol, cam-drin domestig a stelcio yn cael cymorth cyson. Bydd hefyd yn ceisio codi safonau ymchwiliol a gweithredol ar draws Cymru a Lloegr.

Bydd y ganolfan newydd yn rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i haneru trais yn erbyn menywod a merched yn ystod y 10 mlynedd nesaf, a thrin y troseddau hyn fel argyfwng cenedlaethol yn rhan o'i ymgyrch Strydoedd Saffach ehangach.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rwyf yn dawel fy meddwl bod Llywodraeth y DU yn cymryd y bygythiad i fenywod a merched o ddifrif, ac yn rhoi blaenoriaeth iddo yn rhan o'i ymrwymiad i greu gwlad fwy diogel. Mae hwn yn gyfle enfawr i heddluoedd ledled y DU rannu gwersi ac arbenigedd, ac i ddefnyddio data, cudd-wybodaeth a llais y dioddefwr i lunio gwasanaethau'r dyfodol.

"Mae diogelwch menywod a merched yn flaenoriaeth i mi a bydd yn rhan amlwg o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Rwyf yn edrych ymlaen at ddeall sut bydd y ganolfan newydd o fudd i blismona lleol, a sut bydd yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Ngwent pan fydd yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn."