Y Comisiynydd yn canmol Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

8fed Chwefror 2022

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd addysg seiber i helpu pobl i aros yn ddiogel ar-lein fel rhan o Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022.

Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 ar 8 Chwefror, ac mae’n dathlu rôl pobl ifanc yn creu rhyngrwyd mwy diogel.

 

Mae’r dathliad, sy’n cael ei gydlynu gan yr UK Safer Internet Centre, yn annog miloedd o sefydliadau i gymryd rhan er mwyn hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Mae Jeff Cuthbert yn arweinydd seiberdrosedd gyda Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, ac mae’n aelod o fwrdd Canolfan Gwydnwch Seiber Cymru. Meddai: “Rwy’n llwyr gefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

 

“Mae’r rhyngrwyd yn declyn gwych ar gyfer dysgu, ond mae hefyd yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cam-drin a gweithgarwch troseddol. Felly, mae sicrhau bod plant a phobl ifanc a’u rhieni yn deall sut i aros yn ddiogel ar-lein yn hanfodol. 

 

“Rwy’n falch fod plant a phobl ifanc, ysgolion a theuluoedd ledled Gwent yn cael eu cefnogi gan Dîm Seiberdrosedd Heddlu Gwent i’w helpu i ddeall pwysigrwydd aros yn ddiogel ar-lein.

 

“Mae addysg yn allweddol wrth amddiffyn unigolion rhag effaith ddinistriol troseddau ar-lein, gan gynnwys bwlio, sgamiau, twyll rhamant, secstio a meithrin perthnasau amhriodol.”

 

Cyngor i rieni ar gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein:

  • Siaradwch gyda’ch plentyn.
  • Rhowch wybod iddyn nhw ei bod hi’n bwysig bod yn garedig ac yn barchus tuag at eraill ar-lein.
  • Dysgwch sut i ddefnyddio teclynnau, apiau a gosodiadau diogelwch ar ffonau a gliniaduron.
  • Wrth rannu cynnwys, chwarae gemau, neu siarad gydag eraill ar-lein, dylid cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel, a pheidiwch â chlicio ar ddolenni annisgwyl.
  • Peidiwch â bod ofn blocio neu riportio rhywun.

 

Rhagor o wybodaeth: https://saferinternet.org.uk/safer-internet-day/safer-internet-day-2022