Y Comisiynydd yn ateb cwestiynau ar BGfm
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cael ei holi am ei blaenoriaethau ar gyfer Gwent ar orsaf radio cymuned BGfm.
Gofynnodd y cyflwynydd rheolaidd, Steveo, i'r Comisiynydd beth mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ymdrin â beicio oddi ar y ffordd, a chwestiynau am ei blaenoriaethau ehangach ar gyfer ei thymor yn y swydd.
Mae BGfm yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn Nant-y-glo, gyda'r nod o roi llais i'r gymuned.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn hyfryd cwrdd â'r tîm yn BGfm a gweld y gwaith da maen nhw'n ei wneud yn y gymuned.
"Mae radio cymuned mor bwysig o hyd, yn helpu pobl i ddatblygu eu dysgu a'u sgiliau, ac yn cefnogi'r gymuned."
Gwrandewch ar gyfweliad Comisiynydd Mudd yma.