Y Comisiynydd yn annerch ymarferwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol Cymru

24ain Hydref 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi rhoi'r anerchiad agoriadol mewn cynhadledd i weithwyr proffesiynol sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru.

Roedd Comisiynydd Mudd, sy'n arwain ar ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Fwrdd Plismona Cymru ac yn gyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, yn siarad yng nghynhadledd flynyddol Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan.

Mae'r digwyddiad yn dwyn partneriaid o lywodraeth leol, plismona, tân ac achub, Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac arfer gorau.

Meddai Jane Mudd: “Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eithriadol o gymhleth ac mae'r hyn mae pobl yn ei weld fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn edrych yn wahanol ar draws ein cymunedau. Ni fyddwn ni byth yn cael gwared arno'n gyfan gwbl, ac nid yw un dull gweithredu yn gweithio i bawb.

“Fodd bynnag, rydym ni yn gwybod y gall ymyrryd yn gynnar ym mywydau ein plant a phobl ifanc helpu i'w llywio nhw oddi wrth ymddygiad fel hyn. Rydym ni yn gwybod bod creu cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'u hegni i wneud rhywbeth cadarnhaol yn hollbwysig. Rydym ni yn gwybod bod gweithio fel partneriaid i gyflawni hyn yn allweddol.

“Dyna pam mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sy'n dod â phawb at ei gilydd i rannu eu dysgu a'u llwyddiannau, mor hanfodol. Mae llawer iawn o waith da yn digwydd ledled Cymru ac mae'n bwysig ein bod yn dod at ein gilydd i ddysgu ac i ystyried sut y gallwn ni ddefnyddio'r hyn rydym wedi ei ddysgu yn ein cymunedau ein hunain.

“Mae'n broblem heriol ac yn un rwyf yn bwriadu rhoi blaenoriaeth iddi yn rhan o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gwent. Er gwaethaf y nifer o heriau rydym yn eu hwynebu, rwyf yn hyderus, gyda'n gilydd, y gallwn ni wneud gwahaniaeth."

FB/ebull