Y Comisiynydd yn annerch Cynhadledd Cymunedau Mwy Diogel
Gwnaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, annerch partneriaid o bob rhan o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghynhadledd flynyddol Cymunedau Mwy Diogel.
Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru i ddod ag ymarferwyr ynghyd i rannu arfer gorau a chryfhau ymdrechion cydweithredol i wella diogelwch cymunedol ledled Cymru.
Fe wnaeth y cynrychiolwyr archwilio amrywiaeth o faterion allweddol, gan gynnwys eithafiaeth a niwed ar-lein, cam-fanteisio troseddol, a rôl allweddol ymyrraeth gynnar wrth ddatblygu cymunedau mwy diogel, mwy cydnerth.
Dywedodd Jane Mudd: "Mae'r heriau diogelwch cymunedol sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru yn gymhleth ac yn datblygu'n barhaus, a dyna pam y mae mor bwysig dod â chynrychiolwyr o feysydd plismona, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector at ei gilydd.
"Trwy rannu gwaith da, dealltwriaeth sy'n datblygu ac arfer gorau, gallwn barhau i gryfhau ein dull cyffredin o gadw pobl yn ddiogel a sicrhau bod cymunedau’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu diogelu ac yn hyderus yn y gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi."