Y Comisiynydd yn amlinellu blaenoriaethau yn nigwyddiad Race Equality First

25ain Ebrill 2025

Yr wythnos yma ymunodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd â phreswylwyr o Gasnewydd ar gyfer digwyddiad cymunedol Race Equality First yng Nghanolfan Mileniwm Pilgwenlli.

Roedd y digwyddiad yn ddathliad o ddiwylliannau a daeth â phobl o grwpiau lleol, llawer ohonynt o gymunedau amrywiol, at ei gilydd. Roedd hefyd yn helpu i hybu gwaith a gwasanaethau gwerthfawr Race Equality First,  sy'n cynnwys eiriolaeth, cyngor ariannol, a hyfforddiant a sesiynau cwnsela gwrth-hiliaeth.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'n fraint bod yn llais i bobl Gwent. Mae sesiynau holi ac ateb yn llwyfan hollbwysig sy'n fy helpu i ddeall problemau a phryderon preswylwyr.

“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn y digwyddiad sy'n gweithio yn ein cymunedau ac sydd wedi ymroi i wneud gwahaniaeth. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cwestiynau agored a gonest.  Er, roeddwn yn drist i glywed gan breswylwyr sydd wedi bod yn dioddef negyddoldeb a hiliaeth yn eu cymunedau. Ni fyddaf yn goddef yr ymddygiad yma.

“Mae fy ymroddiad i ymdrin â throseddau casineb yn cael lle amlwg yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd.  Rwyf eisiau i'n cymunedau fod yn llefydd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a niwed.

"Rwyf eisiau gweithio gyda phobl o gymunedau amrywiol, er mwyn iddynt fod yn fwy hyddysg yn riportio digwyddiadau ac er mwyn iddynt ymddiried yn Heddlu Gwent.

"Trwy weithio gyda Heddlu Gwent a sefydliadau lleol, fel Race Equality First, gallwn rymuso ein cymunedau amrywiol i godi eu llais."

Riportiwch droseddau casineb.

  • Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng
  • Ar gyfer materion difrys ffoniwch 101
  • Anfonwch neges uniongyrchol at Heddlu Gwent ar Instagram a Facebook @heddlugwent
  • Riportiwch yn ddienw wrth Crimestoppers drwy ffonio 0800 555111.

Race Equality First. https://raceequalityfirst.org/