Y Comisiynydd yn agor man cymunedol newydd ym Mosg Casnewydd
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ag aelodau Mosg Jam'e Canol Casnewydd i agor gardd a man cymunedol newydd yn swyddogol.
Rhoddion ariannol sydd wedi ariannu'r man newydd a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol gydol y flwyddyn.
Bydd hefyd yn galluogi'r mosg i ehangu rhai o'i sesiynau ffitrwydd presennol, gan gynnwys bocsio, a dosbarthiadau tae-kwon-do a hunanamddiffyn i ferched.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i ariannu datblygiad y man yma.
"Mae mor bwysig bod gan bobl ifanc lefydd i fynd lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, a bydd yr ardd hon yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gynnal digwyddiadau difyr, yn arbennig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol."