Y Comisiynydd Jane Mudd yn cyfweld â chynghorydd VAWDASV Llywodraeth Cymru

11eg Rhagfyr 2025

Yn ddiweddar, gwnaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd gyfweld â Johanna Robinson, Cynghorydd Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).

Yn ystod y sgwrs, cafodd y Comisiynydd gipolwg ar rôl Johanna a'r gwaith sy'n cael ei wneud ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru a'i bartneriaid i ymdrin â phroblemau cysylltiedig â VAWDASV.

Cafodd y cyfweliad ei recordio yn ystod wythnos Diwrnod Rhuban Gwyn, ymgyrch cenedlaethol i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Gellir gweld y cyfweliad ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd.

Meddai Jane Mudd: “Hoffwn ddiolch i Johanna am roi o'i hamser i siarad â mi a rhoi cipolwg ar ei rôl a'r gwaith mae hi'n ei wneud gyda Llywodraeth Cymru i ymdrin â VAWDASV ledled Cymru.

"Mae'r ffeithiau'n arswydus. Bob blwyddyn, mae o leiaf un o bob 12 menyw a merch ym Mhrydain yn profi trais neu gamdriniaeth. Mae tair o bob pum menyw yn wynebu aflonyddu rhywiol, bwlio, neu gam-drin geiriol yn y gwaith. A'r ffaith sy'n peri'r mwyaf o bryder - mae mwy na 100 o fenywod yn cael eu lladd gan ddynion bob blwyddyn.

"Er mai dyma'r realiti, rwyf yn ddiolchgar bod gennym ni rywun fel Johanna yn sefyll yn gefn i fenywod a merched yng Nghymru a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed."