Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu'n cefnogi gŵyl gerddoriaeth Casnewydd
Mae pobl ifanc o Gasnewydd yn trefnu gŵyl haf am ddim gyda'r perfformiwr "grime" Lady Leshurr ar frig y rhaglen.
Bydd Gŵyl Haf/Summer Fest yn cael ei chynnal dydd Gwener 2 Awst yn Nhŷ Tredegar ac mae'n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Gymunedol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.
Urban Circle sy'n trefnu'r ŵyl, fel rhan o'r prosiect U-Turn, sy'n defnyddio'r celfyddydau creadigol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar bobl ifanc yn ac o gwmpas ardal Pilgwenlli, Casnewydd.
Fel rhan o'r prosiect, trefnodd tîm o 25 o bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth trwy gydol 2018 i godi arian ar gyfer yr ŵyl haf. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Yn ogystal â chael profiad o drefnu digwyddiadau mawr, maen nhw wedi ennill cymwysterau mewn meysydd megis gwaith ieuenctid, chwaraeon, stiwardio a chymorth cyntaf sy'n eu helpu nhw i ddod o hyd i waith am dâl.
Dywedodd Loren Henry, cyd-gysylltydd prosiect Urban Circle: “Hon fydd y drydedd Ŵyl Haf a gobeithio mai un eleni fydd y fwyaf a'r orau eto.
"Mae gennym artist sydd wedi ennill gwobrau yn cloi'r digwyddiad ac mae popeth o'r gerddoriaeth, adloniant a'r bwyd wedi cael ei ddewis a'i drefnu gan y bobl ifanc eu hunain.
"Pwrpas Prosiect U-Turn yw defnyddio'r celfyddydau i ddenu sylw pobl ifanc at weithgareddau, ac i ddod â Chymuned Ieuenctid Casnewydd at ei gilydd i ddathlu celfyddyd, drama, cerddoriaeth a diwylliant ieuenctid.
“Mae'r bobl ifanc sy'n gweithio ar y prosiect wedi ennill profiad a chymwysterau gwerthfawr, ac mae hyn wedi eu galluogi nhw i gael gwaith am dâl yn y digwyddiadau, ac mae'n rhoi hwb iddyn nhw ar ddechrau eu gyrfa.
“Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, gan gynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Gwent, y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, G-Expressions, Prifysgol De Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Beacons Cymru, a Jamie Winchester a Gareth Leaman, gweithwyr proffesiynol lleol yn y maes celfyddydau, am yr holl gymorth sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn llwyddiannus.”
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae prosiect U-turn wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
"Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ganolbwyntio eu hegni ar rywbeth cadarnhaol a thynnu eu sylw oddi wrth droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol posibl.
“Maen nhw'n ennill profiad a chymwysterau sy'n eu helpu nhw i gael swyddi; gwneud ffrindiau newydd a datblygu eu hyder.
"Mae hefyd yn chwalu rhwystrau ac yn helpu i feithrin cymuned fwy cydlynus.
"Mae Gŵyl Haf yn argoeli i fod yn ddigwyddiad eithriadol a hoffwn annog pobl i archebu eu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan."
Ceir mwy o fanylion am y digwyddiad ar dudalen Facebook Urban Circle www.facebook.com/UrbanCircle