Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymuno â swyddogion Heddlu Gwent i weld hyfforddiant diogelwch y cyhoedd
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi ymuno â swyddogion Heddlu Gwent i weld cyfres o ymarferion hyfforddi diogelwch y cyhoedd a defnyddio gynau taser.
Yn dilyn cwrs dwys wyth diwrnod yn ystod eu cyfnod hyfforddi cychwynnol, rhaid i bob swyddog yr heddlu ymgymryd â sesiynau gloywi blynyddol ar ddiogelwch y cyhoedd, sy'n cynnwys stopio a chwilio, a rheoli carcharorion yn y ddalfa. Mae'n rhaid i swyddogion sydd wedi'u hyfforddi i ddefnyddio gynnau taser hefyd gwblhau hyfforddiant blynyddol i sicrhau bod eu sgiliau'n gyfredol.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am graffu ar ddefnydd yr heddlu o rym a'r defnydd o gynnau taser, gan gynnal gwiriadau annibynnol i sicrhau bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio'n deg ac yn effeithiol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Roedd yn ddiddorol iawn gweld yr hyfforddiant hwn yn uniongyrchol a chefais sicrwydd yn sgil dyfnder gwybodaeth ac arbenigedd yr hyfforddwyr, a chadernid yr ymarferion hyfforddi.
"Mae fy nhîm yn adolygu defnydd Heddlu Gwent o rym a gynnau taser yn rheolaidd drwy fy Mhanel Craffu ar Gyfreithlondeb, sy'n nodi enghreifftiau o waith da ond hefyd digwyddiadau pan fo angen dysgu pellach. Ers ei gyflwyno yn 2013 mae fy nhîm wedi gweld gwelliant gwirioneddol yn y rhyngweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd.
"Dyma un o'r ffyrdd yr wyf i'n dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, ac yn helpu i sicrhau bod prosesau'n cael eu cynnal mewn ffordd sy'n agored, yn onest ac yn dryloyw."
Gallwch weld adroddiadau o gyfarfodydd y panel ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.