Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn galw am oddefgarwch a dealltwriaeth
29ain Medi 2019
Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, yn galw ar wleidyddion a'r cyhoedd.
Dywedodd: “Mae angen i wleidyddion o bob plaid ystyried yn ofalus y rhethreg maen nhw'n ei defnyddio, yn arbennig ar yr adeg hon sy'n llawn o anghytuno gwleidyddol. Yr hyn sydd ei angen arnom ni ar y funud hon yw goddefgarwch a dealltwriaeth, nid chwilio am fychod dihangol a chodi ofn.
"Mae hanes yn dangos y gall iaith sy'n peri rhwyg rhwng pobl ddylanwadu ar gamau negyddol ac ymddygiad peryglus. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i ystyried yr effaith y gall ein geiriau ei gael ar bobl eraill. Gyda'n gilydd, dylem allu canolbwyntio ar yrru cydlyniant cymunedol er mwyn y budd pennaf i bawb”