Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn buddsoddi yng ngwneuthurwyr ffilm y dyfodol
Mae plant o Flaenau Gwent yn gweithio gyda chwmni cyfryngau arobryn i greu cyfres o ffilmiau byrion, diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.
Mae'r plant yn gweithio gyda chwmni Cymru Creations o Dredegar i greu'r ffilmiau sy'n seiliedig ar eu profiadau eu hunain ac maen nhw wedi dewis canolbwyntio ar bynciau fel gyrru'n beryglus, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau casineb.
Byddant yn gyfrifol am bob cam o'r broses, o ddatblygu'r straeon, ysgrifennu'r sgriptiau, actio, ffilmio a golygu.
Ar ddiwedd y prosiect byddant yn derbyn NVQ lefel 1 a 2 mewn gwneud ffilmiau, sy'n cael ei ystyried i fod yn gyfwerth â TGAU, a bydd y ffilmiau yn cystadlu am Wobr Celfyddydau yn Trinity College, Llundain.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu rhoi cyllid i'r prosiect hwn.
“Yn ogystal ag annog y bobl ifanc i ystyried materion difrifol fel trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy'r broses o wneud ffilm, rydym hefyd yn rhoi cyfle gwych iddyn nhw ddysgu a datblygu sgiliau a fydd yn fuddiol iddyn nhw yn y dyfodol pan fyddant yn chwilio am waith.
“Mae hefyd yn rhoi rhywbeth cadarnhaol i'r bobl ifanc ei wneud, gan helpu i'w cadw nhw rhag ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
Dywedodd Kevin Phillips o Cymru Creations: "Fel arfer mae cyrsiau ffilm fel hyn yn ddrud iawn, felly mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle na fydden nhw wedi ei gael fel arall i'r bobl ifanc hyn.
“Maen nhw'n gweithio'n arbennig o galed, yn gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd, ac mae'n wych i’w gweld nhw'n datblygu fel unigolion ac fel tîm wrth i'r wythnosau fynd heibio.”
Mae Tre Summers wedi bod yn gweithio gyda Cymru Creations ers i'r prosiect gael ei lansio ym mis Ionawr. Dywedodd: "Rwy'n dod pob wythnos ac rwy’n mwynhau yn fawr. Oni bai fy mod i'n gwneud hyn, byddwn i jest yn gwylio'r teledu, ac rwy'n hoffi'r ffaith mod i'n cael gwneud ychydig o bopeth rwy'n hoffi, fel actio a gwaith camera."
I weld manylion y cyllid sydd ar gael gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch i www.gwent.police.uk.