Wythnos y Lluoedd Arfog
22ain Mehefin 2023
Roedd yn fraint cael gwahoddiad i ymuno â phartneriaid yng Nghyngor Sir Fynwy ar gyfer seremoni codi baner i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog.
Mae seremonïau’n cael eu cynnal ar draws y wlad yn ystod yr wythnos sy'n arwain at Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 24 Mehefin.
Hoffwn ddiolch i'n lluoedd arfog, y lluoedd sy'n gwasanaethu, teuluoedd, cyn-filwyr a'r cadetiaid am eu hymrwymiad a'u hymroddiad parhaus i amddiffyn ein gwlad.