Wythnos Rhyng-ffydd
Mae ffydd wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru.
Mae wedi helpu i lunio a symboleiddio'r gwerthoedd diwylliannol rydym yn eu rhannu, megis gwaith caled, ysbryd cymunedol ac agwedd arloesol a chadarnhaol.
Mae Gwent yn gyfarwydd iawn ag amlddiwylliannaeth, gyda'i chyfoeth o hanes ac amrywiaeth yr holl bobl sydd wedi ei galw'n gartref ar hyd y canrifoedd. Mae amlddiwylliannaeth wedi ffynnu, gydag amrywiaeth eang o draddodiadau, diwylliannau a chrefyddau'n cyfrannu at yr amrywiaeth cymdeithasol ac ethnig a welwn heddiw.
Mae deall materion sy'n ymwneud â ffydd a chrefydd yn hollbwysig i unrhyw wasanaeth heddlu sy'n ceisio sicrhau hyder a chydlyniant yn ei gymunedau lleol.
Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rhan o'm rôl i yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y ffordd mae gwasanaethau plismona'n cael eu darparu yng Ngwent. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw un sy'n ymwneud â'r heddlu yn cael ei drin yn gyfartal, gyda thegwch a gyda pharch.
Mae'r Prif Gwnstabl a mi wedi cyhoeddi ein Cydgynllun Cydraddoldeb Strategol yn ddiweddar, sy'n gwneud egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o bopeth rydym yn ei wneud. Ei nod yw herio gwahaniaethu ac mae'n cysylltu â Chynllun yr Heddlu a Throseddu Gwent, sy'n amlinellu ein blaenoriaethau plismona lleol.
Mae'r blaenoriaethau hyn yn bwysicach nag erioed yn awr. Mae gwasanaeth yr heddlu yn plismona drwy gydsyniad a rhaid i ni ennill ymddiriedaeth a hyder ein cymunedau trwy ddefnyddio'r gyfraith yn dryloyw, yn deg ac yn foesegol.
Rwyf am i Went fod yn lle y gall pobl fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, heb ofni profi casineb o unrhyw fath, gan gynnwys anoddefgarwch crefyddol. Ni allwn, ac ni ddylem, dderbyn diwylliant lle mae dioddefwyr yn teimlo bod rhaid iddynt ddioddef yn dawel.
Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â phryderon yn y gymuned, ni waeth beth yw crefydd rhywun.