Wythnos Plismona Cymdogaeth

30ain Mehefin 2025

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd i ymweld â thîm Heddlu Gwent yn Nhredegar yn ystod Wythnos Plismona Cymdogaeth.

Aeth y Comisiynydd i'r orsaf i gwrdd â'r Arolygydd ardal ac aelodau'r tîm lleol.

Roedd yr ymweliad yn ystod Wythnos Plismona Cymdogaeth, sy'n ceisio tynnu sylw at y gwaith da mae timau plismona cymdogaeth yn ei wneud i amddiffyn cymunedau.

Meddai Jane Mudd: “Roedd yn wych mynd allan ar grwydr yn ein cymunedau yn ystod Wythnos Plismona Cymdogaeth a chwrdd â rhai o'r swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu sy'n gweithio i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a mi yn unedig yn ein hymrwymiad i gynyddu plismona gweladwy yn ein cymunedau. Dyma beth mae ein preswylwyr wedi dweud wrthym ni maen nhw ei eisiau a dyna pam mae'n rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd.

" Mae'r timau cymdogaeth yn rhan hollbwysig o'r gwaith yma. Maen nhw'n gweithio yn ein cymunedau bob dydd ac yn gwneud gwaith aruthrol i amddiffyn ein preswylwyr.”

Gallwch ddysgu mwy am eu gwaith trwy ddilyn eu tudalennau nhw ar Facebook: 

Blaenau Gwent
Caerfilli
Sir Fynwy
Casnewydd
Torfaen