Wythnos Fyd-eang Diogelwch ar y Ffyrdd
Mae'r wythnos hon yn nodi chweched Wythnos Fyd-eang Diogelwch ar y Ffyrdd y Cenhedloedd Unedig ac mae galw ar wneuthurwyr polisi ar draws y byd i gyfyngu terfynau cyflymder i 20 milltir yr awr ar ffyrdd mewn ardaloedd lle mae pobl yn cerdded, byw a chwarae.
Y terfyn cyflymder safonol presennol mewn ardaloedd preswyl yw 30 milltir yr awr. Os caiff rhywun ei daro gan gar sy'n teithio ar gyflymder o 30 milltir yr awr mae 50 y cant o siawns y bydd yn cael ei ladd. Os caiff ei daro gan gar sy'n teithio ar gyflymder o 20 milltir yr awr, mae'r perygl hwnnw 10 y cant yn llai.
Rwyf yn falch o ddweud bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo'n barod yma yng Ngwent.
Rwyf yn aelod o grŵp llywio Llywodraeth Cymru sydd am osod terfyn cyflymder safonol o 20 milltir yr awr ar bob ffordd drefol yng Nghymru erbyn 2023, ac rydym yn rhan o brosiect peilot ar hyn o bryd i weld sut bydd hyn yn gweithio'n ymarferol. Rwy'n hyderus iawn y bydd y newid bach hwn yn helpu i achub bywydau yn ein cymunedau.
Mae terfynau cyflymder a gorfodi wedi'i dargedu gan yr heddlu yn chwarae rhan bwysig yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel ond rwy'n credu bod angen i ni ddechrau o'r dechrau wrth ymdrin â pheirianneg ffyrdd yn y dyfodol. Mae dylunio ffyrdd mewn ardaloedd preswyl newydd sy'n achosi i bobl arafu'n naturiol wedi cael ei brofi i fod yn ffordd o leihau goryrru.
Rhaid inni beidio ag anghofio mai’r ffactor unigol mwyaf wrth leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd yw cyfrifoldeb gyrwyr. Yn y DU mae 11 marwolaeth neu anaf difrifol ar ein ffyrdd bob dydd lle mae cyflymder yn cael ei nodi fel ffactor cyfrannol. Gellid bod wedi osgoi pob un o'r rhain. Felly byddwch yn ofalus, arafwch a chadwch yn ddiogel ar y ffyrdd.