Van Road yn agor llwybr beicio pob tywydd newydd
Mae llwybr 'pwmpio' (pump track) newydd sbon wedi cael ei adeiladu ym Mharc Beic Llwybrau Van Road yng Nghaerffili, gyda chymorth ariannol gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Llwybrau Van Road yw'r parc beic naid-budr mwyaf yng Nghymru y gall y gymuned ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim. Gwirfoddolwyr sy’n edrych ar ôl y parc sydd yng Nghoed Parc-y-Van, ac maen nhw hefyd yn cynnal clwb rheolaidd gyda'r nos ar ddydd Mercher.
Derbyniodd y tîm gwirfoddoli gyllid tuag at y llwybr newydd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn 2018 ond cafodd y gwaith ei oedi am gyfnod sylweddol oherwydd tywydd garw a'r pandemig.
Meddai James Davies, un o'r gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am y prosiect: "Rydyn ni wrth ein bodd bod y llwybr newydd yn barod o'r diwedd ac ar gael i reidwyr ei ddefnyddio, ac rydyn ni'n ddiolchgar i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd am y cyfraniad ariannol sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.
"Mae gennym ni gymuned wych yma lle mae reidwyr o bob oedran a gallu yn gallu dod at ei gilydd i reidio a chefnogi ei gilydd. Byddem yn falch iawn i groesawu unrhyw un sydd â diddordeb yn y gamp i’n clwb ar nosweithiau Mercher, lle gallant siarad â reidwyr eraill a gweld beth sy'n digwydd yma."
Mae'r llwybr bob tywydd newydd ar agor gydol y flwyddyn ac mae'n addas ar gyfer reidwyr o bob gallu.
Meddai Rhys Jones, beiciwr mynydd: "Mae'r llwybr newydd yn wych, ac mae pawb yn gallu ei ddefnyddio. Allwch chi ddim reidio'r llwybrau eraill yn y gaeaf neu os yw'r tywydd yn wael achos maen nhw'n gallu cael eu difrodi, ond mae hwn yn rhoi rhywle i ni reidio gydol y flwyddyn."
Mae'r prosiect yn cael cyllid gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd trwy ei Gronfa Gymunedol, sy'n cael ei defnyddio i ariannu prosiectau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc a allant fod mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Rydym yn aml yn derbyn cwynion am bobl ifanc yn reidio beiciau yng nghanol trefi neu ardaloedd eraill lle gallant beri perygl i gerddwyr, neu i ffermio a bywyd gwyllt.
"Mae Llwybrau Van Road am ddim ac yn rhywle gall beicwyr fynd i reidio'n ddiogel. Rwyf yn siŵr y bydd y gymuned yn gwneud defnydd da o'r llwybr newydd, ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu i ysbrydoli pobl ifanc i fynd allan i’r wlad a chael hwyl."
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llwybrau Van Road.