Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent
Yr wythnos hon aeth fy nhîm i gyfarfod Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent, sy'n cynnwys plant o ysgolion ledled y sir, i gynnal gweithdy ar ddiogelwch cymunedol.
Mae'r plant wedi gwneud rhywfaint o waith o'r blaen yn sôn am y llefydd maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn anniogel ynddynt yn eu hardaloedd lleol, ac aethom yn ôl at y pwnc hwn eto i weld beth sydd wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y plant yn graff iawn a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu a'i chyflwyno i'r timau plismona cymdogaeth, y cyngor lleol, a phartneriaid eraill yn awr. Mae sesiynau fel hyn yn un o'r ffyrdd rwyf yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu lleisio eu barn ar y materion yn eu cymunedau sy'n bwysig iddyn nhw.