Twyll Pàs Covid y GIG
30ain Medi 2021
Mae troseddwyr sy’n honni eu bod yn gweithio i’r GIG yn defnyddio negeseuon testun, e-bost a galwadau ffôn i gynnig gwerthu tystysgrifau brechlyn ffug.
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch eich Pàs Covid GIG, peidiwch ag ymateb i geisiadau am arian, cyfrineiriau neu unrhyw fanylion ariannol.
Defnyddiwch wefan swyddogol Pàs Covid y GIG yn unig. Bydd y wefan yn rhoi Pàs Covid i chi ar fformat digidol neu bapur.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef sgam, anfonwch y neges e-bost at report@phishing.gov.uk a rhowch wybod i Action Fraud.