Twrnamaint Dyfodol Cadarnhaol
Daeth pobl ifanc o Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen at ei gilydd i gymryd rhan mewn twrnamaint pêl-droed 5 bob ochr yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed.
Cymrodd 46 o bobl ifanc ran yn y digwyddiad a welodd Abergavenny Fridays yn ennill dan 16 oed a Newport Sanctuary yn ennill dros 16 oed.
Trefnwyd y digwyddiad gan Dyfodol Cadarnhaol, sy'n derbyn cyllid gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ac sy'n rhoi mynediad i bobl ifanc at chwaraeon a gweithgareddau i helpu i'w dargyfeirio oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.
Dywedodd Mark Foster, arweinydd Dyfodol Cadarnhaol yn Sir Fynwy: “Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â phobl ifanc at ei gilydd, yn eu cadw nhw oddi ar y strydoedd ac yn rhoi rhywbeth iddyn nhw ei wneud yn ystod y gwyliau ysgol sy’n hwyl.
“Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad ac roedd naw o dimoedd yn cymryd rhan. Rydym ni'n gobeithio cynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.”
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Pwrpas Dyfodol Cadarnhaol yw rhoi mynediad i bobl ifanc at weithgareddau sy'n caniatáu iddyn nhw ddefnyddio eu hegni mewn ffordd gadarnhaol a chynhyrchiol.
"Mae'r digwyddiadau hyn yn helpu i ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drosedd, ac mae'n eu helpu nhw i gadw'n iach wrth gael hwyl gyda'u ffrindiau.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych a hoffwn longyfarch pawb a gymrodd ran ynddo.”