Tu Ôl i’r Bathodyn 2022
Daeth dros 20,000 o drigolion Gwent i ddigwyddiad Heddlu Gwent, Tu Ôl i’r Bathodyn, dros y penwythnos.
Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal ers y pandemig a gwych oedd ei weld yn dychwelyd.
Roeddwn i’n falch iawn o gyfrannu arian at y digwyddiad er mwyn ei helpu i fod yn llwyddiant. Mae chwalu’r rhwystrau rhwng yr heddlu a chymunedau a meithrin ymddiriedaeth a ffydd mewn plismona yn rhan allweddol o fy nghynllun heddlu a throsedd ar gyfer Gwent.
Mae’r digwyddiad hwn yn dod â chymunedau a’r heddlu ynghyd ac yn rhoi cyfle i drigolion gwrdd â’r bobl go iawn y ‘tu ôl i’r bathodyn’ sy’n gweithio bob dydd i’w cadw’n ddiogel.
Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd fu’n ymwneud â chynnal y digwyddiad, ac i bawb a ddaeth i’w gefnogi ar y diwrnod.