Trigolion Cwmbrân yn derbyn pecynnau marcio eiddo
Yr wythnos hon aethom i ymuno â thîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent a oedd allan yn y gymuned yng Nghwmbrân yn rhoi pecynnau marcio eiddo fforensig am ddim i drigolion yn byw yn ardal Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon.
Prynwyd y pecynnau gan Gyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon a byddant yn helpu i wneud trigolion lleol yn fwy diogel yn eu cymuned.
Maen nhw'n cynnwys hylif o'r enw Smartwater y gall trigolion ei ddefnyddio i farcio eu heiddo ac sy'n unigryw i bob cyfeiriad. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys arwyddion arbennig i rybuddio bod eiddo wedi ei farcio gyda Smartwater yn yr adeilad.
Profwyd bod yr ymgyrch Dangos y Drws i Drosedd yn mynd i’r afael yn llwyddiannus â throseddau meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn. Mae'r tîm hefyd yn gweithio i fynd i'r afael â'r gadwyn gyflenwi droseddol, gan weithio gyda gwerthwyr nwyddau ail law a busnesau eraill i'w helpu nhw i fod yn wyliadwrus am eiddo wedi'i ddwyn.
Rydw i'n falch o weld y pecynnau hyn yn cael eu cyflwyno ar y fath raddfa yn y gymuned, a hoffwn annog cynghorau cymuned eraill i ystyried ariannu cynlluniau tebyg yn yr ardal.
Ewch i wefan Heddlu Gwent i gael rhagor o wybodaeth.