Trechu troseddau cyllyll mewn cymunedau
Cefais wahoddiad i fod ar sioe Politics Wales y BBC ddydd Sul i siarad am droseddau cyllyll yn dilyn llofruddiaeth drasig Ryan O’Conner.
Mae hwn yn achos erchyll ac rwyf yn meddwl am deulu a ffrindiau Ryan ar yr adeg anodd hon. Mae’r rhai hynny sy’n gyfrifol wedi’u cael yn euog ac maent yn aros i gael eu dedfrydu.
Hoffwn i dawelu meddyliau pobl bod achosion fel hyn yn eithriadol o brin.
Gwent sydd ag un o’r lefelau isaf o droseddau cyllyll yn y DU. Yng Nghymru yn gyffredinol, mae troseddau cyllyll yn gymharol is na’r lefelau sydd i’w gweld mewn ardaloedd â phroblemau fel Llundain, ac rydym ni wedi gweld tuedd ar i lawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
A dweud y gwir, mae cyllyll yn cael eu cario gan lai nag un y cant o bobl ifanc. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o adroddiadau am droseddau cyllyll y mae’r heddlu yn eu cael yn digwydd mewn lleoliadau domestig, nid ar y strydoedd.
Ond nid yw hynny’n golygu ein bod yn diystyru hyn.
Mae nifer o adnoddau ar gael i blismona i fynd i’r afael â throseddau cyllyll. Mae swyddogion yn cynnal ymgyrchoedd stopio a chwilio yn seiliedig ar gudd-wybodaeth i atal y rhai hynny a allai gredu bod cario cyllell yn ddewis synhwyrol. Mae’r heddlu a phanel craffu annibynnol sy’n cael ei hwyluso gan fy swyddfa i, yn craffu’n fanwl ar y defnyddio o stopio a chwilio, fel mater o drefn.
Mae Ymgyrch Sceptre yn fenter reolaidd lle mae gweithredu dwysach ar droseddau cyllyll yn digwydd drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys stopio a chwilio wedi’u targedu, cyrchoedd arfau, prawf prynu cyllyll gan fanwerthwyr, a defnyddio biniau ildio.
Ond yr allwedd wirioneddol i ymdrin â’r mater hwn yw addysg ac ymyrryd yn gynnar. Mae’n llawer gwell atal pobl ifanc rhag codi cyllell yn y lle cyntaf nag ymdrin â’r canlyniadau wedyn. Gall arwain at niwed corfforol, ond gallai hefyd ddifetha eu cyfleoedd addysg a chyflogaeth yn y dyfodol.
Mae fy swyddfa’n ariannu nifer o fentrau wedi’u cynllunio i dargedu plant mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid i’w haddysgu am beryglon cyllyll, a chwalu’r rhwystrau i adrodd am faterion yn y gymuned. Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod tystiolaeth ac arfer gorau yn sail i bopeth yr ydym ni’n ei wneud.
Nid rhywbeth y gall unrhyw un asiantaeth ymdrin ag ef ar ei phen ei hun yw hyn, ond drwy gydweithio, gallwn wneud ein cymunedau’n fwy diogel.
……….
Os oes gennych chi wybodaeth bod rhywun yn cario cyllell gallwch roi gwybod i Heddlu Gwent ar 101, drwy wefan Heddlu Gwent, neu drwy Facebook a Twitter.
Gallwch hefyd wneud adroddiad yn ddienw i CrimeStoppers 0800 555 111 neu drwy wefan CrimeStoppers.
Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.