Tîm Fearless yn mynd â ffilm Llinellau Cyffuriau ar daith
Mae tîm Fearless, sy'n derbyn cyllid gan fy swyddfa, wedi ymuno â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i godi ymwybyddiaeth o gangiau Llinellau Cyffuriau gyda theithwyr yng ngorsaf rheilffordd Casnewydd.
Llinellau Cyffuriau yw'r enw a roddir i rwydweithiau cyffuriau sy'n cael eu gweithredu gan gangiau troseddol y tu allan i'w dinasoedd a'u trefi eu hunain.
Gall pobl ifanc gael cyngor neu riportio troseddau’n ddienw trwy Fearless, gwasanaeth ieuenctid yr elusen Crimestoppers.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae llinellau rheilffordd yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan blant a phobl ifanc sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau troseddol i gario cyffuriau rhwng trefi a dinasoedd.
“Yn aml, mae'r bobl ifanc hyn yn rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ac mae hwn yn syniad gwych gan y tîm i godi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn.”
Gellir cofnodi problemau’n ddienw ar wefan Fearless.