Targedu lladron ym Mlaenau Gwent
Yr wythnos hon ymunais â Heddlu Gwent i ymweld â masnachwyr ar ystâd ddiwydiannol Tafarnaubach ym Mlaenau Gwent.
Mae tîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau ar yr ystâd i roi sylw i broblemau byrgleriaeth a dwyn. O ganlyniad, mae'r ystâd gyfan wedi ymrestru ar y cynllun Dangos y Drws i Drosedd, sy'n wych.
Mae Dangos y Drws i Drosedd yn gweithio trwy roi dulliau i drigolion a busnesau amddiffyn eu heiddo, a thrwy fynd i'r afael â'r gadwyn gyflenwi droseddol i'w gwneud yn anoddach i ladron werthu'r nwyddau maen nhw wedi'u dwyn.
Dywedodd masnachwyr wrthyf ers i'r arwyddion gael eu codi ar yr ystâd nad ydynt wedi cael un achos o dorri i mewn, lle'r oedd hynny'n digwydd bron unwaith y mis yn flaenorol.
Rydym yn dechrau gweld canlyniadau cadarnhaol iawn gyda'r cynllun hwn a hoffwn annog mwy o fusnesau i ymuno ag ef. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Heddlu Gwent.