Taclo troseddau mewn cymunedau gwledig

28ain Chwefror 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â thîm troseddau gwledig Heddlu Gwent i ddysgu mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud i daclo throseddau mewn ardaloedd gwledig.

Cafodd y Comisiynydd gyfle i weld sut mae'r tîm yn defnyddio dronau i gyrraedd ardaloedd eang o gefn gwlad a chwilio am bobl sydd ar goll, a chwrdd â ffermwyr a pherchnogion busnesau gwledig i siarad â nhw am y materion sy'n eu pryderu.

Fe wnaeth hi hefyd ymweld â thomen gladdu o’r Oes Efydd ger Casnewydd sydd mor hen â'r pyramidiau ac sydd wedi cael ei fandaleiddio'n wael gan feiciau oddi ar y ffordd. Mae Heddlu Gwent wedi gweithio gyda Coed Cadw, Llywodraeth Cymru a CADW i roi ffens o amgylch y safle i gadw cerbydau draw a gosod byrddau gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr.  

Cafodd tîm troseddau gwledig Heddlu Gwent ei sefydlu i ymateb i droseddau gwledig, treftadaeth a bywyd gwyllt. Gall hyn amrywio o weithio gyda ffermwyr a busnesau gwledig eraill i ddiogelu eiddo a safleoedd, helpu i ddiogelu anifeiliaid gwyllt rhag potswyr, ac atal adeiladau hanesyddol rhag cael eu fandaleiddio.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae Gwent yn ardal wirioneddol amrywiol, ac nid wyf yn credu bod llawer o bobl yn gwerthfawrogi'n llawn yr economi wledig ffyniannus sydd gennym ni yma. Gall dwyn o'n ffermydd a'n busnesau gwledig gael effaith ddinistriol ac yn y pen draw gall effeithio ar ein cyflenwad bwyd a'n cyfleoedd twristiaeth, ac yn aml mae'n gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol.

"Mae Gwent yn ffodus o fod â thîm sydd wedi’i neilltuo sy'n deall y materion hyn. Efallai nad oes gan y gwaith hwn yr un proffil â mathau eraill o droseddau, ond mae'n hynod bwysig ein bod yn parhau i gymryd y materion hyn o ddifrif, a’n bod yn gweithio i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau gwledig."