Taclo camddefnyddio alcohol a chyffuriau yng Ngwent

18fed Medi 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi cynnal ei hymweliad swyddogol cyntaf â phencadlys Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) yng Nghasnewydd.

Ers 2014 mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi buddsoddi mwy na £800,000 yn flynyddol yn y gwasanaeth i gefnogi'r gwaith y mae'n ei wneud gyda'r bobl hynny sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu sydd ar fin mynd iddi.

Mae GDAS yn gweithio gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol i ddarparu ymateb amlasiantaeth i broblemau a achosir gan gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, gan fod yn bresennol mewn cyfarfodydd strategaeth troseddau difrifol a chyfundrefnol, grwpiau gorchwyl pobl sy'n cysgu allan, a mynychu gwarantau gyda'r heddlu i sicrhau bod anghenion uniongyrchol pobl agored i niwed yn cael eu diwallu a'u bod yn cael eu diogelu rhag cam-fanteisio pellach.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Roedd y cyfarfod gyda thîm GDAS yn llawn gwybodaeth ac yn gyfle i ddeall popeth maen nhw'n ei wneud i geisio mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.

“Yn aml, cyffuriau ac alcohol yw gwraidd llawer o'r troseddau a'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a welwn ar ein strydoedd. Mae hon yn broblem gymdeithasol ddofn heb ateb hawdd, ond cefais fy mhlesio’n fawr o gael gwell dealltwriaeth o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd yma yng Ngwent.

“Fel arweinydd newydd fy mhenodi ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, rwy'n bwriadu defnyddio'r pwerau sydd gennyf i ddod â'r partneriaid cywir at y bwrdd i wneud yr hyn a allwn i dorri'r cylch troseddu a chreu cymdeithas fwy diogel i ni i gyd."