Syrfëwr y pencadlys yn canmol prentisiaid
Mae dyn o Fargod sy'n dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymwysterau tra bo’n gweithio ar bencadlys newydd Heddlu Gwent yn annog eraill i ystyried prentisiaeth.
Roedd Calum Jones, 25, yn siarad yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (8-15 Chwefror), sy'n dathlu prentisiaethau a'r effaith y maen nhw’n ei chael ar unigolion, cyflogwyr a'r economi.
Gadawodd Calum yr ysgol ar ôl cael ei gymwysterau TGAU ac, ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o grefftau, mae'n ymgymryd â phrentisiaeth gyda BAM Construction ar hyn o bryd. O ganlyniad bydd yn dod yn syrfëwr meintiau gyda chymwysterau llawn, gyda chymhwyster lefel gradd, mewn ychydig dros bum mlynedd.
Dywedodd Calum: "Gadewais yr ysgol heb unrhyw syniad go iawn am yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud nesaf. Fe wnes i gwrs gwyddor chwaraeon yn y coleg ac yna gweithio am ychydig flynyddoedd fel sgaffaldiwr. Er bod y rhan fwyaf o'm teulu'n gweithio ym maes adeiladu, nid oeddwn erioed wedi ei ystyried yn ddewis gyrfa.
"Soniodd rhywun am y brentisiaeth gyda BAM a chofrestru oedd y peth gorau a wnes i erioed. Mae'n swydd go iawn lle rwy'n cael llawer o brofiad yn gweithio mewn gwahanol feysydd o'r busnes, ac rwy'n cael fy nhalu i ddysgu ac ennill fy nghymwysterau ar yr un pryd."
Ar hyn o bryd mae Calum yn gweithio i BAM Construction, sy'n cyflawni pencadlys newydd Heddlu Gwent ar Ystad Ddiwydiannol Llantarnam yng Nghwmbrân. Bydd y cyfleuster 5,178 metr sgwâr yn cynnwys 480 o swyddogion a staff, a bydd yn gartref i'r ystafell reoli, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau 999 i'r heddlu, timau troseddau mawr, gweithgareddau hyfforddi, gwasanaethau cymorth ac uwch reolwyr. Disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr hydref.
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: "Gall y llwybr prentisiaeth gynnig cyfleoedd i'r rhai a allai fel arall deimlo eu bod wedi'u heithrio o gymwysterau lefel uwch. Gallant ddysgu wrth iddynt ennill cyflog sy’n sicr yn beth cadarnhaol wrth i bobl symud ymlaen drwy flynyddoedd cynnar eu gyrfaoedd.
"Rwy'n falch iawn o weld bod prentisiaid yng Ngwent yn cael profiad gwerthfawr o weithio ar y pencadlys newydd. Dyma un yn unig o’r ffyrdd, sy'n cynnwys cyflogi pobl leol a defnyddio cyflenwyr lleol, y mae’r economi leol yn elwa yn sgil y gwaith adeiladu."
Thema Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni yw 'adeiladu'r dyfodol', a nod yr ymgyrch yw annog cyflogwyr i ddathlu'r amrywiaeth o gyfleoedd a gwerth a ddaw yn sgil prentisiaethau, a sut y gallant helpu pobl a chyflogwyr i adeiladu eu dyfodol.
Dywedodd Calum: "Mae llawer o bwysau ar bobl i fynd i brifysgol ond mae pobl hefyd fel fi sydd eisiau cael profiad ymarferol ac sydd angen dechrau ennill cyflog. Rwy’n annog unrhyw un sy'n ystyried eu dewisiadau gyrfa yn y dyfodol i ystyried cynllun prentisiaeth."