Swyddogion newydd ar ddyletswydd
24ain Rhagfyr 2021
Yr wythnos hon croesawyd 52 o swyddogion heddlu newydd i Heddlu Gwent.
Mae'r swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant bellach yn cael eu defnyddio gyda thimau plismona ar hyd a lled pum sir Gwent.
Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yng Ngwent ac rwy’n falch ein bod ni mewn sefyllfa lawer gwell heddiw na phan gefais fy ethol yn gyntaf yn 2016, gyda mwy na 200 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau.
Mae'r recriwtiaid newydd wedi gweithio'n galed yn ystod eu hyfforddiant, o dan amgylchiadau arbennig o anodd, ac mae'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad y maen nhw wedi'u dangos i'w canmol. Dymunaf y gorau iddyn nhw yn eu swyddi newydd.