Swyddogion Heddlu newydd Gwent yn ymuno â'r rhengoedd

27ain Mawrth 2025

Mae'r garfan ddiweddaraf o 51 o swyddogion fyfyrwyr Heddlu Gwent wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn ymuno â thimau plismona ledled cymunedau Gwent.

Byddant yn ymuno â thimau ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen i barhau i ddysgu, ac i ddatblygu eu sgiliau a’u harbenigedd ymhellach.

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â'r swyddogion newydd, eu teuluoedd, a chydweithwyr yn Heddlu Gwent ar gyfer seremoni gorffen hyfforddiant ffurfiol, sy'n nodi diwedd eu cyfnod hyfforddiant cyntaf.

Dywedodd: “Mae pob un o'r swyddogion yma wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyrraedd y garreg filltir bwysig yma a dylent fod yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi ei gyflawni.

“Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a mi yn gwbl ymroddedig i gael mwy o bresenoldeb heddlu gweladwy yng Ngwent a bydd y swyddogion yma'n chwarae rhan bwysig yn cyflawni'r ymroddiad yma. Byddant yn ymuno â'u cydweithwyr ledled Gwent yn awr, ac rwyf yn gobeithio y byddant yn cael croeso cynnes yn ein cymunedau.

"Mae plismona'n yrfa eithriadol o heriol ond yn un sy'n rhoi llawer o foddhad. Dymunaf y gorau i'r swyddogion hyn ar gyfer y dyfodol."